maethu yn sir y fflint

eisoes yn maethu

eisoes yn maethu?

Rydych chi eisoes wedi gwneud y penderfyniad anhygoel i wneud gwahaniaeth a dod yn ofalwr maeth.

Efallai eich bod eisoes yn maethu gyda ni. Os ydych chi'n maethu gyda'ch Awdurdod Lleol yng Nghymru, yna rydych chi eisoes yn rhan o dîm ehangach Maethu Cymru.

Os ydych chi’n ofalwr maeth gydag asiantaeth breifat ar hyn o bryd, a ph’un a oes gennych chi blentyn neu berson ifanc yn byw gyda chi eisoes ai peidio, mae gennym ni lawer o brofiad o’r broses drosglwyddo. 

Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod am drosglwyddo i Maethu Cymru Sir y Fflint.

Father-helping-son-with-homework-in-kitchen-scaled

manteision maethu'n uniongyrchol

Mae Maethu Cymru Sir y Fflint yn rhan o rwydwaith o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol dielw, ac mae ein holl gyllid yn mynd yn uniongyrchol i'r gwasanaeth maethu a ddarparwn.

Ein cyfrifoldeb cyfreithiol fel yr Awdurdod Lleol yw pob plentyn sydd angen gofalwr maeth. Drwy faethu’n uniongyrchol gyda ni, byddwch yn gysylltiedig â phob gweithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â gofal plentyn. Mae gennym wybodaeth leol am ein plant a'n gofalwyr maeth. Rydym yn deall realiti bywyd yn Sir y Fflint.

Mae bod yn rhan o’n tîm yn Sir y Fflint yn golygu y byddwch bob amser yn cael eich clywed, eich parchu, eich cefnogi a’ch gwerthfawrogi fel rhan allweddol o’n tîm maethu.

mother-and-young-daughter-baking-scaled

beth rydym yn ei gynnig yn maethu cymru sir y fflint

  • Rhwydwaith cefnogol o dros 90 o ofalwyr maeth wedi'u lleoli yn Sir y Fflint.
  • Cefnogaeth gan eich gofalwr a thîm hwb Mockingbird, teulu estynedig sy'n cynnig arhosiad dros nos wedi'u cynllunio a rhai brys, cefnogaeth gan gymheiriaid a gweithgareddau cymdeithasol.
  • Rhaglen ddysgu a datblygu gynhwysfawr, sy'n cynnwys dysgu wyneb yn wyneb a dysgu arlein, gyda hyfforddiant a datblygiad arbenigol lle bo angen.
  • Cofnod dysgu unigol a chynllun datblygu, wedi'u llenwi â'r holl sgiliau a phrofiadau trosglwyddadwy y byddwch wedi'u hennill ar hyd y ffordd, ac yn gosod llwybr ar gyfer eich dyfodol.
  • Gwasanaeth therapiwtig, sy'n cefnogi ein plant a gofalwyr maeth.
  • Cefnogaeth broffesiynol 24/7 ar gyfer cyngor, arweiniad neu gefnogaeth. Ni fyddwch byth yn teimlo'n unig gyda ni.
  • Mynediad i nifer o grwpiau cymorth gofal maeth lleol, digwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd lle gallwch ddod yn nes at deuluoedd maeth eraill, cael profiadau newydd, cyfeillgarwch ac atgofion parhaol.
  • Cefnogaeth ariannol sylweddol a lwfansau hael.
  • Aelodaeth am ddim o'r Rhwydwaith Maethu (TFN) a'r Gymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru.
  • Aelodaeth cerdyn Blue Light gyda mynediad i fwy na 15,000 o ostyngiadau.
  • Gostyngiad o 50% oddi ar eich treth gyngor.
  • 5 diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol os cyflogir gan Gyngor Sir y Fflint.
talk it over welsh

sut i drosglwyddo i ni

Mae trosglwyddo i ni yn haws nag y gallech feddwl. Does ond angen i chi gysylltu â'n tîm i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth.

Byddwn yn siarad am pam rydych am drosglwyddo ac a allwn fodloni eich disgwyliadau maethu.

Pan fyddwch chi’n barod i drosglwyddo, byddwn ni yma i’ch cefnogi drwy gydol y broses a sicrhau bod y cyfnod trosglwyddo mor syml â phosibl.

canllaw trosglwyddo

become a foster carer

get in touch

  • By submitting your information you understand that Flintshire County Council may contact you about your fostering enquiry. Privacy Policy