cwestiynau cyffredin

pa hyfforddiant fydda i'n ei gael?

pa hyfforddiant fydda i’n ei gael?

Mae’r hanfodion gennych chi i fod yn ofalwr maeth gwych, dim ond drwy feddwl am y peth. Tosturi. Ymroddiad. Chwilfrydedd.

Rydyn ni’n cymryd amser ac yn cynnig yr arbenigedd i’ch helpu i ddatblygu’r hanfodion hynny, er mwyn i chi gael yr holl adnoddau y bydd eu hangen arnoch. 

beth fyddwch chi’n ei ddysgu

Byddwch yn dysgu sut rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd, y rheolau sy’n helpu i lywio’r hyn rydyn ni’n ei wneud, a sut i fod y gorau y gallwch chi fod. Fyddwch chi byth yn teimlo’n segur rhwng y cyrsiau hyfforddi a’r cymwysterau.

pryd fyddwch chi’n dysgu

Rydyn ni’n hyblyg, ac mae hynny’n cynnwys ein fframwaith dysgu a datblygu. Byddwch yn cael cyfleoedd dysgu amrywiol ar adegau sy’n addas i chi. Dim rhoi tic yn y blwch sy’n bwysig, ond tyfu bob dydd. Mae rhai sgiliau'n gyffredinol, rhai yn fwy addas ar gyfer plentyn penodol. Byddwn yn rhoi pa bynnag hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch, pryd bynnag y bydd eu hangen arnoch.