Stori Gavin

sliders2_cy

Nid yw Gavin Griffith, 34 oed o’r Wyddgrug, yn rhywun y byddech yn disgwyl iddo fod yn ofalwr maeth, ond mae wedi bod yn ofalwr sengl ers pedair blynedd ac mae’n gofalu am blant o 8 oed i 18 oed ac yn cynnig cymorth seibiant rheolaidd i ofalwyr eraill.

“Mae pobl yn meddwl fy mod yn hurt pan fyddaf yn dweud wrthynt fy mod yn ofalwr maeth. ‘Dw i’n meddwl eu bod yn disgwyl i ofalwyr maeth fod yn gyplau canol oed,” meddai Gavin sy’n llwyddo i gydbwyso gyrfa lwyddiannus fel rheolwr tai yng Nghyngor Sir y Fflint a bod yn ofalwr maeth. “Nid yw bod yn sengl ac mewn swydd lawn amser yn eich atal rhag maethu. Gall fod yn brysur, ond gallwch wneud y gwaith pan mae’n gyfleus i chi. Mae’n golygu bod rhaid bod yn drefnus ac yn ddisgybledig â’ch amser, ond mae nifer o fanteision yn gysylltiedig â bod yn ofalwr sengl. Mae’r plant a’r bobl ifanc yn gwerthfawrogi’r sylw unigol y maent yn ei gael. Yn aml, dydyn nhw ddim wedi cael hynny gartref.”

Dechreuodd diddordeb Gavin mewn maethu pan ddaeth yn fentor i bobl ifanc mewn gofal, fel yr esbonia, “Mi wnes i gyfarfod â llawer o bobl ifanc mewn gofal a phan oedden nhw’n rhannu eu profiadau, roeddwn yn gwybod y byddai maethu’n rhywbeth yr hoffwn ei wneud. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o’r holl opsiynau maethu a oedd ar gael, felly es i draw i ddigwyddiad gwybodaeth i ganfod pa opsiynau fyddai’n caniatáu i mi weithio ar yr un pryd.”

Pedair blynedd yn ddiweddarach, dywed Gavin ei fod yn mwynhau rhoi gofal maeth cymaint ag erioed:

“Rydw i wrth fy modd. Rydw i’n teimlo fel petawn yn cyfrannu at ddatblygiad pobl ifanc. Mae’n rhoi boddhad mawr gwybod eich bod wedi chwarae rhan ynddo. Mae mwyafrif helaeth y plant fel unrhyw blant a phobl ifanc eraill. Maen nhw’n gallu cael problemau â cholled a hiraethu am eu teulu. Rydych yn darllen amdanynt yn gyntaf i gael gwybod am eu gorffennol. Dydw i ddim yn eu trin yn wahanol.

“Rydych yn ffurfio perthynas agos â nhw. Mae’n un o’r pethau mwyaf boddhaus y gallwch ei wneud. Mae’r bobl ifanc yn hoffi gwybod fod rhywun yn malio amdanyn nhw. Maen nhw’n awyddus i ddangos eu cerdyn adroddiad a’r cynnydd y maen nhw’n ei wneud yn yr ysgol.

Maen nhw eisiau i chi weld sut hwyl y maen nhw’n ei gael.

“I unrhyw un sy’n ystyried maethu, yn bendant ,“Ewch Amdani”. Mae’r gefnogaeth a gewch yn ardderchog a thrwy fynd at eich Cyngor lleol cewch gyfle i ofalu am blant sy’n agored i niwed yn eich ardal chi. Rydw i'r un mor frwdfrydig nawr ag oeddwn ar y dechrau. Mae’n un o’r profiadau mwyaf boddhaus yn y byd.”

Anfon pecyn gwybodaeth i mi
Back to Top