Ffyrdd o Faethu

pwy all faethu?

pwy all faethu yn sir y fflint?

Does dim dau blentyn yr un fath, a does dim dau riant maeth yr un fath chwaith – daw teuluoedd maeth o bob math o wahanol gefndiroedd.

Yn eich cymuned leol, mae yna blant sydd angen rhywun i wrando arnyn nhw a chredu ynddyn nhw – rhywun maen nhw’n gallu dibynnu arnyn nhw bob amser. Os ydych chi'n berchen ar dŷ neu'n denant, yn sengl neu'n briod, efallai mai chi yw'r person hwnnw. Mae’r un peth yn wir am ethnigrwydd a chyfeiriadedd rhywiol – dydy’r manylion hyn ddim yn chwarae unrhyw ran yn eich gallu i faethu plentyn. 

Yn wir, rydyn ni’n dathlu amrywiaeth ein gofalwyr maeth. Rydyn ni’n gwerthfawrogi profiadau ac yn gwybod bod set sgiliau ehangach yn rhywbeth cadarnhaol iawn. Y pethau hyn sydd bwysicaf.

Daliwch ati i ddarllen i weld a yw maethu i chi.

mythau maethu: gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen

Drwy faethu, gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn i blant yn Sir y Fflint. Boed hynny’n aros dros nos neu’n drefniant tymor hir, mae maethu’n gallu golygu pethau gwahanol iawn. Mae angen gwahanol bobl hefyd, a dyna pam fod amrywiaeth yn allweddol – mae angen gofalwyr arnon ni sydd â chefndiroedd, profiadau a storïau amrywiol.Ni yw eich canolfan arbenigol bwrpasol chi. Rydyn ni’n dod at ein gilydd, ynghyd â’ch teulu, eich ffrindiau a’ch cymuned, i sicrhau’r gorau i blant lleol.Mae yna ddau beth rydyn ni’n eu gofyn o ran pwy sy’n gallu maethu: allwch chi wneud gwahaniaeth, ac ydych chi eisiau gwneud hynny?

alla i faethu yn sir y fflint os ydw i’n gweithio’n llawn amser?

Os oes gennych chi fywyd gwaith prysur, gallwch chi fod yn ofalwr maeth o hyd, gydag ychydig o feddwl ychwanegol. Gall maethu fod yn rhan o’ch bywyd os ydych chi’n dymuno iddo fod. Gall jyglo hebrwng plant i'r ysgol a gwyliau’r ysgol weithio, yn union fel mae’n gweithio mewn teuluoedd eraill, gyda chefnogaeth y bobl o’ch cwmpas, gan gynnwys gofalwyr maeth lleol eraill. Mae rhai gofalwyr maeth sy’n gweithio’n llawn amser ac yn gallu maethu’n rhan amser drwy gynnig seibiant byr. Mae angen ymrwymiad a dull cydweithredol ar faethu; byddwch chi’n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol, athrawon a therapyddion. Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi bob cam o’r ffordd.

alla i fod yn ofalwr maeth os ydw i’n byw mewn llety rhent?

P’un ai ydych chi’n rhentu eiddo neu’n talu morgais, gallwch chi faethu. Os ydych chi’n teimlo’n ddiogel yn lle rydych chi’n byw, yna byddai plentyn yn teimlo’n ddiogel hefyd. Gallwn weld beth sy’n gweithio orau i chi yn dibynnu ar ble rydych chi’n ei alw’n gartref.

Edrychwch arno fel hyn. Gallai eich ystafell sbâr gael ei defnyddio ar gyfer storio neu fel swyddfa gartref, ond gallai hefyd fod yn lle diogel a phreifat i blentyn – lle diogel i rywun sydd ei angen.

alla i faethu os oes gen i blant fy hun?

Mae pob teulu maeth yn wahanol, fel y mae pob plentyn maeth yn wahanol. Os oes gennych chi blant yn barod, bydd maethu’n ymestyn eich teulu ac yn dod â mwy o bobl i’ch cartref i’w caru ac i ofalu amdanyn nhw.

Mae plant yn gallu elwa o frodyr a chwiorydd maeth hefyd. Mae’n rhoi dealltwriaeth iddyn nhw, yn eu helpu i greu ffrindiau ac yn datblygu eu gallu i ofalu am eraill..

ydw i’n rhy hen i faethu?

Does dim terfyn oedran uchaf ar gyfer gofalwyr maeth. Gallwch chi fod yn eich 20au neu yn eich 70au – mae pobl o unrhyw oed yn gallu bod yn rhiant maeth. Byddwn ni’n sicrhau eich bod chi’n cael y gefnogaeth leol a’r hyfforddiant arbenigol sydd eu hangen arnoch i’ch paratoi ar gyfer eich taith faethu.

ydw i’n rhy ifanc i faethu?

Does dim terfyn oedran isaf ar gyfer maethu chwaith. Dydy bod yn ifanc ddim yn golygu na allwch chi fod yn rhan o’r teulu maethu. Gyda’n harweiniad ni, gallwch chi gychwyn ar y daith faethu.

a oes rhaid i gyplau sy'n maethu fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

Dydy’ch statws perthynas ddim yn pennu a gewch chi faethu ai peidio. Beth sy’n bwysig ydy’r hyn y gallwch chi ei gynnig i blentyn; mae angen sefydlogrwydd ar blant. Bydd eich tîm Maethu Cymru lleol yn eich helpu i benderfynu ai dyma’r amser iawn i chi, p’un ai ydych chi’n sengl, yn briod neu mewn partneriaeth sifil.

alla i faethu os ydw i’n drawsryweddol?

Dydy eich rhywedd ddim yn chwarae rhan mewn bod yn rhiant maeth da. Yn anad dim, eich personoliaeth, eich sgiliau a’ch natur ofalgar yw’r ffactorau sylfaenol.

alla i faethu os ydw i’n hoyw?

Dydy eich cyfeiriadedd rhywiol ddim yn rhywbeth i’w ystyried fel rhan o’r broses faethu. Y brif ystyriaeth yw eich ymrwymiad i gynnig lle diogel i blentyn – bod yn berson sy’n gwrando ac yn gofalu.

alla i faethu os oes gen i gi neu gath?

Os oes gennych chi gi, cath neu unrhyw anifail anwes arall, byddwn ni’n eu cynnwys yn eich asesiad. Dydy hyn ddim yn golygu na fyddwch chi’n gallu maethu; byddwn eisiau sicrhau y bydd eich anifail anwes yn cyd-dynnu ag unrhyw blant maeth yn y dyfodol.

Mae anifeiliaid anwes yn gallu darparu math arall o gymorth i blentyn maeth a bod yn fantais go iawn mewn teulu maeth.

alla i faethu os ydw i’n ysmygu?

Os ydych chi’n ysmygu, fyddwch chi ddim yn gallu maethu plant iau ond gallwch chi fod yn rhiant maeth o hyd. Gall y polisïau sy’n ymwneud ag ysmygu, gan gynnwys e-sigaréts, a gofal maeth, amrywio o un Awdurdod Lleol i’r llall. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod yn onest o’r cychwyn. Os ydych chi’n ysmygu ac eisiau rhoi’r gorau iddi, byddwn ni’n cynnig arweiniad ar sut i wneud hynny. 

Ein nod yw dod o hyd i’r gyfatebiaeth iawn rhwng eich teulu chi â’r plant yn ein gofal.

alla i faethu os ydw i’n ddi-waith?

O ran bod yn rhiant maeth da, mae bod ar gael i gynnig cefnogaeth, arweiniad a chariad bob dydd yn bwysig. Os ydych chi’n ddi-waith ar hyn o bryd, fydd hyn ddim yn eich atal rhag bod yn ofalwr maeth. Byddwn ni’n gweithio gyda chi i wneud yn siŵr mai dyma’r amser iawn i chi.

alla i faethu os nad oes gen i dŷ mawr?

Does dim ots pa mor fawr neu fach yw eich tŷ. Mae pob cartref yn wahanol, a dyna sut dylai fod. Does dim angen tŷ drud arnoch chi i fod yn ofalwr maeth, bydd ystafell sbâr mewn amgylchedd diogel yn rhoi lle i blentyn ei alw’n gartref.

become a foster carer

cysylltu â ni

  • By submitting your information you understand that Flintshire County Council may contact you about your fostering enquiry. Privacy Policy