Ffyrdd o Faethu

mathau o ofal maeth

mathau o ofal maeth

Mae gofal maeth yn gallu amrywio o ychydig o nosweithiau neu wythnosau i leoliad mwy hirdymor. Er bod hyd yr amser yn amrywio o deulu i deulu, mae un peth sydd wastad yr un fath: mae pob arhosiad yn darparu hafan ddiogel.

Does dim dau blentyn yr un fath, a does dim dau deulu maeth yr un fath chwaith. Does dim un dull o faethu sy’n addas i bawb, gall pobl o bob cefndir ddarparu lle i blant ei alw’n gartref. Lle i fyw, dysgu, chwerthin a theimlo eu bod yn cael eu caru.

gofal maeth tymor byr

long-haired-young-boy-in-city-centre-with-slush-drink

Mae gofal maeth tymor byr yn gallu bod yn unrhyw beth o ddiwrnod i flwyddyn, a phopeth yn y canol. Mae’r math hwn o ofal maeth yn gartref dros dro i blentyn tra bo cynlluniau’n cael eu hystyried.

Happy-Girl-with-Mobile-overlooking-Limeslade-Bay-in-Mumbles-Gower-scaled

Eich rôl chi, fel gofalwr maeth tymor byr, yw ein helpu ni i benderfynu ar y cynllun tymor hir cywir ar gyfer y plentyn. Byddwch chi yno i’r plentyn bob cam o’r ffordd pan fydd eich angen chi arno, a byddwch chi’n ei helpu i symud yn ôl adref, i deulu maeth arall neu deulu mabwysiadu.Mae arhosiad byr yn chwarae rhan fawr ym mywyd plentyn, waeth am faint o amser rydych chi'n ei faethu. Gall hyd yn oed diwrnod ddarparu llwybr at ddyfodol mwy disglair.

gofal maeth tymor hir

Family smiling in park

Mae gofal maeth tymor hir yn cynnig cynllun tymor hwy i blant sydd ddim yn gallu dychwelyd adref er mwyn iddyn nhw allu creu gwreiddiau. Maen nhw’n gwybod lle maen nhw’n aros heddiw, yfory a nes eu bod nhw wedi tyfu i fyny.

Dad-and-son-having-fun-outdoors-scaled

Drwy baru yn ofalus, mae gofal maeth tymor hir yn uno’r plentyn maeth iawn gyda’r gofalwr iawn nes ei fod yn tyfu i fyny, neu pan fydd yn barod i fod yn annibynnol.

mathau arbenigol o ofal maeth

Mae gofal maeth tymor byr a thymor hir yn gallu cynnwys mathau arbenigol o ofal maeth. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

Dad-holding-young-daughter-on-shoulders-outdoors-scaled

seibiant byr

Mae angen seibiant ar bob un ohonon ni o bryd i’w gilydd. Cyfle i gael hoe fach o fywyd arferol. Mae seibiant byr yn galluogi plant i wneud hynny – sef cael rhywfaint o amser oddi wrth eu teulu. 

Mae seibiant byr, sydd weithiau’n cael ei alw’n 'ofal seibiant', yn golygu gofalu am blentyn dros nos ar benwythnosau neu ar wyliau byr. Mae’r gwyliau hyn yn cael eu cynllunio ac maen nhw’n gallu bod yn rheolaidd, gan eich galluogi i fod yn estyniad i deulu’r plentyn. Mae gofal seibiant byr yn rhoi cyfoeth o brofiadau a chyfleoedd newydd i blant, gan eu helpu i ysgrifennu’r bennod nesaf.

Blonde-child-in-mothers-arms-is-looking-up-the-sky-Cardiff-scaled

rhiant a phlentyn

Mae yna rieni ifanc yn Sir y Fflint sydd mewn perygl o golli eu plentyn i’r system ofal, oherwydd nad oes ganddyn nhw’r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i fod yn rhieni da. 

Mae lleoliadau i rieni a phlant yn helpu’r rhieni ifanc hyn ar eu taith, drwy ddarparu amgylchedd cefnogol lle gallan nhw ddysgu a thyfu. Fel gofalwr rhiant a phlentyn, eich rôl chi yw arwain rhiant ifanc nes ei fod yn teimlo ei fod yn gallu gofalu am ei blentyn ar ei ben ei hun. Byddwch chi’n gweithio gyda’r rhiant i’w helpu i fod y rhiant gorau y gall fod.

Therapy-meeting-with-parents-and-young-boy-scaled

gofal therapiwtig

Gall fod angen gofal therapiwtig ar blant sydd ag anghenion emosiynol neu ymddygiadol cymhleth. Mae’r math hwn o leoliad yn sicrhau bod plant yn cael y lefel ychwanegol o gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw. Fel gofalwr therapiwtig hyfforddedig, byddwch chi’n dysgu sut i ofalu am y plant hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl.

cysylltu â ni

cysylltu â ni

  • Drwy gyflwyno eich gwybodaeth chi, rydych chi'n deall y gallai Cyngor Sir y Fflint gysylltu â chi ynglŷn â’ch ymholiad maethu. Hysbysiad Preifatrwyd.