blog

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng maethu ar gyfer y Cyngor lleol o'i gymharu ag asiantaethau maethu?

Cofnodwyd: Dydd Llun 6th September 2021
Blog i Mewn: Blogs

Rwyf wedi siarad gyda nifer o bobl sydd wedi cymhlethu gyda'r nifer o sefydliadau gwahanol sy'n hysbysebu am ofalwyr maeth, a beth yw'r gwahaniaeth?!

Dyma rai ffeithiau lleol all eich helpu chi ddeall y gwahaniaeth rhwng maethu ar gyfer y Cyngor lleol o'i gymharu ag asiantaethau maethu.

 

Nifer ac Amlder Lleoli

Yn Sir y Fflint rhwng Ebrill 2017 a Mawrth 2018, cafodd 89% o blant lleol oedd angen gofal maeth eu lleoli gyda gofalwyr maeth mewnol y Cyngor lleol. Dim ond 11% o’r plant a gafodd eu lleoli gydag asiantaethau maethu allanol.

Ystod oedran lleoli

Yn Sir y Fflint rhwng Ebrill 2017 a Mawrth 2018, roedd y mwyafrif o blant gafodd eu lleoli gydag asiantaethau maethu allanol yn cynnwys pobl ifanc 10+ oed gydag ymddygiad heriol neu leoli gyda rhiant a phlentyn gyda'i gilydd.

Lleoliad

Bydd gofalwyr maeth y Cyngor Lleol fel arfer yn maethu plant sy’n mynychu ysgol o fewn y Sir. Bydd plant fel arfer yn parhau yn eu hysgol bresennol a disgwylir i ofalwyr maeth ddanfon i'r ysgol. Gall asiantaethau maethu gynnwys ardal ehangach ac efallai y disgwylir i ofalwyr fynychu cyfarfodydd a darparu trafnidiaeth i ardal gartref y plentyn sydd yn bellach i ffwrdd.

 

Beth a ddarperir?

Yn Sir y Fflint, fel arfer rydym yn darparu'r holl gyfarpar bydd eich plentyn angen, er enghraifft cotiau, cadeiriau uchel, gwlâu ayb. Gwiriwch i weld beth mae'ch asiantaeth maethu yn disgwyl i chi brynu gan fod pris pram, set car a chot yn gallu bod yn ddrud. 

3ydd Parti

Mae timoedd maethu'r Cyngor Lleol yn gweithio ar y cyd gyda gweithiwr cymdeithasol y plentyn, o fewn yr un sefydliad (yn aml yn yr un adeilad), gyda’r un tîm rheoli sy’n gwneud y penderfyniadau ar gyfer y plentyn. Mae asiantaethau maethu yn 3ydd parti allanol gyda’u strwythur rheoli eu hunain.

 

Arian

Mae taliadau i ofalwyr maeth y Cyngor lleol wedi eu dosbarthu i gategorïau, yn hytrach nag un cyfanswm. Mae’n ofyniad gan y Llywodraeth i arddangos taliadau maethu fel hyn. Y “lwfans” yw’r arian er mwyn gwario ar y plentyn. “Tâl” y gofalwr yw’r taliad a wneir i’r gofalwr. Mae’r Cyngor Lleol hefyd yn talu swm ar gyfer pen-blwydd y plentyn, gwyliau blynyddol a dathliadau crefyddol (e.e. Y Nadolig). Gall gofalwyr maeth y Cyngor Lleol ddatblygu eu gyrfa maethu yn raddol gyda lefelau talu cynyddol.


Gobeithiaf fod hyn wedi codi cwestiynau i chi ofyn, wrth ddewis maethu gyda’r Cyngor lleol, eich Cyngor cyfagos, elusen neu asiantaeth maethu annibynnol.