blog

eglurhad o dâl ar gyfer gofalwyr maeth

Cofnodwyd: Tuesday 14th September 2021
Blog i Mewn: Blogs

Ydw i’n cael fy nhalu i faethu? A fedrwch chi fforddio ei wneud?

Dyma eglurhad o dâl ar gyfer gofalwyr maeth. 

 

  1. Arian i’w wario ar y plentyn

  2. Taliadau Achlysur Arbennig

  3. Arian a delir i’r gofalwr 

  4. Sut mae hynny’n cronni?

  5. Pryd medra i roi’r gorau i fy ngwaith er mwyn maethu?

 

Arian i’w wario ar y plentyn

Pan fyddwch yn maethu plentyn, byddwch yn cael taliad am eich costau. Gelwir hwn y "lwfans maethu” er mwyn talu am y bwyd, gwres, dŵr, trydan, petrol ychwanegol ac ati. Mae’r swm yn amrywio gan ddibynnu ar oed y plentyn rydych yn ei faethu.

Taliadau Achlysur Arbennig

Byddwch hefyd yn cael arian i dalu am anrhegion pen-blwydd, anrhegion Nadolig a gwyliau ar gyfer y plentyn. Efallai byddwch hefyd yn cael eich talu i fynychu rhai cyrsiau hyfforddiant, tua £50 am gwrs diwrnod llawn.  Fel arfer darperir unrhyw offer sydd ei angen arnoch.
Ni ddylech fod “allan o boced” oherwydd maethu.

Arian a delir i’r gofalwr

Pan fyddwch yn dechrau maethu, byddwch yn cael cyflwyniad a disgwylir i chi fynychu cyrsiau hyfforddiant craidd sylfaenol yn ogystal â magu ychydig o brofiad o ofalu am ofalwyr maeth. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch ar lefel 1. Byddwch yn cael arian i’w wario ar y plentyn, ond ni fyddwch yn cael taliad fel gofalwr eto.

Bydd angen i chi gwblhau’r cyrsiau hyfforddiant craidd i gynyddu eich taliadau. Os ydych eisoes â hyfforddiant, cymwysterau a phrofiad o weithio gyda phlant, gallwch ddechrau ar lefel uwch o dâl. 

Ar ddiwedd eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael cyfarfod adolygu lle, os byddwch wedi cwblhau'r hyfforddiant craidd gofynnol a thasgau gofalu yn iawn, gallwch symud ymlaen i lefel 2. Fel gofalwr lefel 2 byddwch yn cael £3,000* ychwanegol y flwyddyn fel taliad i chi.

Ar ôl lefel 2, gallwch wneud cais i gwblhau eich cymhwyster Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF). Mae hyn yn debyg i CGC a bydd gofyn i chi ysgrifennu rhai o’r tasgau yr ydych yn eu gwneud fel gofalwr maeth, fel tystiolaeth ar gyfer cymhwyster. Unwaith byddwch wedi cael eich QCF a gwneud hyfforddiant uwch, gallwch symud ymlaen i lefel 3 yn eich adolygiad nesaf. Fel gofalwr lefel 3 byddwch yn cael hyd at £6,500* ychwanegol y flwyddyn fel taliad i chi.

 

Sut mae hynny’n cronni?

Tâl Gofalwyr

 Lefel 1Lefel 2 Lefel 3
Arian a ddarperir i’w wario ar y plentyn £9204 to £11,440 a year***    £9204 to £11,440 a year*** £9204 to £11,440 a year***
Achlysuron Arbennig   £636 to £868**  £636 to £868**  £636 to £868**
Tâl Gofalwyr  £0* £3000*  £6500*

***yn seiliedig ar lwfans maethu wythnosol Sir y Fflint o £177-£220, gan ofalu am blentyn 365 diwrnod.

**yn seiliedig ar lwfans pen-blwydd £177-£220, gwyliau crefyddol £177-£220 a gwyliau o £354-£440, os yw’r plentyn yn eich gofal ar yr achlysuron hyn.

*yn seiliedig ar £125 (lefel 3) yn gofalu am un neu ddau o blant, 365 diwrnod.

Dim ond pan fyddwch yn gofalu am blentyn y cewch daliadau maethu.

 

Pryd medra i roi’r gorau i fy ngwaith er mwyn maethu?

Gan ddibynnu ar eich sefydlogrwydd ariannol, fe allech roi’r gorau i’ch gwaith er mwyn maethu, ond nid yw colli cyflog i ddod yn ofalwr maeth bob amser yn beth ymarferol i’w wneud yn ariannol. Nid yw maethu bob amser yn ffynhonnell incwm dibynadwy, gan na allwn sicrhau y byddwch yn gofalu am blentyn bob diwrnod o'r flwyddyn.

Fodd bynnag, unwaith byddwch wedi cyrraedd lefel 3 a byddwch wedi gwneud ymrwymiad tymor hir i ofalu am blant penodol, yna bydd eich taliadau a’ch incwm o faethu yn dod yn fwy dibynadwy.

Mae maethu gyda’r awdurdod lleol yn ddatblygiad graddol o'ch sgiliau, hyder a thâl. Mae ardaloedd mwy heriol o faethu ar gael gyda'r awdurdod lleol, sy'n darparu taliad uwch i'r gofalwr maeth, o £10,000 - £24,000 (pro rata). Gellir eich hystyried ar gyfer un o'r rhain unwaith bydd gennych ychydig o brofiad o weithio gyda phlant neu faethu.

Bydd gan wahanol wasanaethau maethu wahanol fathau o faethu arbenigol a lefelau tâl.

I gael gwybod mwy am daliadau maethu yng Nghymru, darllenwch ganllaw Maethu Cymru i dâl gofalwyr maeth: Y Canllaw Gorau i Dâl Gofalwyr Maeth (llyw.cymru)