blog

A oes modd cyfuno gwarchod plant gyda maethu?

Cofnodwyd: Dydd Llun 13th September 2021
Blog i Mewn: Blogs

 

A oes modd cyfuno gwarchod plant gyda maethu? Mae amrywiaeth o ran barn (ond dim rheolau) ar gyfuno gwarchod plant a maethu, a dyma pam.


Manteision

  1. Fel gwarchodwr plant, mae gennych brofiad gwych o ofalu am blant pobl eraill.
  2. Rydych ar gael gartref yn ystod y dydd.
  3. Rydych yn mynychu’r un hyfforddiant diogelu a chymorth cyntaf pediatrig â gofalwyr maeth, felly mae modd trosglwyddo eich hyfforddiant.
  4. Mae eich cartref yn ddiogel i blant.
  5. Mae eich gwybodaeth yn gyfredol am y cyngor gofal plant diweddaraf.
  6. Rydych yn drefnus o ran gwaith papur a chadw cofnodion.

Anfanteision

  1. Bydd angen i ni baru’r plant maeth gyda chi’n ofalus fel bod y plentyn maeth a’r plant sy’n cael eu gwarchod gennych yn gydnaws â’i gilydd a bod modd i chi ddiwallu anghenion yr holl blant rydych yn gofalu amdanynt.
  2. Bydd angen i chi allu gwneud dau beth; cadw eich cwsmeriaid yn hapus a diwallu anghenion plentyn maeth.
  3. Mae’n bosibl y bydd ystod oedran y plant, neu’r math o faethu rydych yn ei wneud, yn gyfyngedig.
  4. Mae’n bosibl y bydd angen i chi leihau nifer y plant rydych yn eu gwarchod. Mae angen i chi allu ffitio pawb yn y car.
  5. Bydd gan blant mewn gofal maeth lawer o gyfarfodydd ac apwyntiadau i’w rheoli.
  6. Mae’n bosibl na fydd y plentyn maeth yn mynychu eich ysgol leol, ac rydym yn disgwyl i ofalwyr maeth hebrwng plant i'r ysgol ac oddi yno, felly mae’n bosibl y bydd angen rhywfaint o help arnoch i fynd â phlant i’r ysgol a’u casglu oddi yno.


Profiad ein gofalwr maeth o gyfuno gwarchod plant

“Mae symud o warchod plant i faethu i’w weld fel datblygiad naturiol. Roedd rhieni rhai o’r plant roeddwn yn eu gwarchod yn teimlo bod ymddygiad rhai o’r plant roeddwn i’n eu maethu yn ormod ac annerbyniol a gwnaethant benderfynu symud eu plant at warchodwyr eraill. Roedd rhai o’r plant roeddwn yn eu gwarchod yn teimlo bod y plant roeddwn i’n eu maethu yn swnllyd, dinistriol a diofal ac nad oedd modd rhagweld beth fyddent yn ei wneud, a gwnaethant ofyn i’w rhieni eu symud. Mae maethu yn werth chweil oherwydd rwy’n teimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau’r plant rwy’n gofalu amdanynt.” Gofalwr maeth a chyn warchodwr plant

“Roedd un rhiant yn cwyno bod gweithiwr cymdeithasol yn y tŷ bob amser pan fyddai’n dod i nôl ei phlentyn gen i. Pan soniais wrth y rhieni fy mod am ddechrau maethu, roedd un neu ddau ohonynt yn meddwl byddwn yn treulio mwy o amser ar y plant maeth. Roedd yn anodd ffitio cyfarfodydd i mewn. Mae hefyd yn bwysig cadw ystafell wely’r plentyn maeth ar wahân a deall efallai na fyddant am i blant eraill chwarae gyda’u teganau neu gyffwrdd eu pethau. Roedd rhaid i fi fyrhau fy niwrnodau gwarchod plant yn y diwedd er mwyn ffitio gwersi nofio, brownis ac ati i mewn gyda’r plentyn maeth. Hefyd, bydd angen i chi ystyried y gymhareb plentyn/oedolyn yn dibynnu ar yr oedrannau.” Gofalwr maeth a Gwarchodwr plant

Beth mae’r arolygwyr gwarchod plant a maethu yn ei ddweud...

Caiff gwarchodwyr plant a gwasanaethau maethu eu harolygu gan yr un sefydliad, sef Arolygiaeth Gofal Cymru.
“Rydym wedi gweld gwarchodwyr plant sydd hefyd yn Ofalwyr Maeth a chaiff hyn ei adlewyrchu yn nifer y plant maent wedi cofrestru i ofalu amdanynt ar eu tystysgrif gofrestru. Mae angen iddynt hefyd roi gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru naill ai ar eu cais i gofrestru fel Gwarchodwr Plant neu os yw’n drefniant newydd ers iddynt gofrestru – eto byddai angen iddynt roi gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae angen cynnwys gwybodaeth o ran p‘un a yw gwarchodwr plant yn ofalwr maeth yn y Datganiad o Ddiben. Mae manylion am gynnwys y ddogfen wedi’u cynnwys dan Safon 1.2 y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.” Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Cyfuno maethu seibiant a gwarchod plant

“Rwyf wedi bod yn gwarchod plant ers y 3 ½ mlynedd diwethaf, ac rwyf hefyd wedi bod yn ofalwr maeth seibiant gyda fy ngŵr. Roedd hyn yn cyflwyno sawl her....

I ddechrau, pan wnes i egluro wrth rieni’r plant roeddwn yn eu gwarchod fy mod wedi dod yn ofalwr maeth ac egluro byddai’r gofal yn digwydd yr un amser â’m horiau gwarchod plant weithiau, gwelais fod rhai rhieni ychydig yn gyndyn, roeddwn i'n teimlo eu bod yn credu y byddwn i'n maethu plant 'heriol' ac nid oeddent am i'w plentyn fod yng nghwmni'r plant maeth. Sylwais ar hyn yn gyflyn iawn yn enwedig gydag un rhiant, fodd bynnag llwyddais i dawelu ei meddwl a phan wnaeth hi gyfarfod y plant maeth, roedd hi’n teimlo rhyddhad ac roedd hi’n hapus i sylweddoli eu bod yn ‘normal’ mewn gwirionedd... mae stigma yn bodoli yn sicr, a gallaf ddeall yn iawn pan roedd y rhiant hwn yn teimlo fel hyn hefyd. Roedd llawer hapusach pan wnaeth sylweddoli y byddai fy ngŵr o gwmpas i helpu hefyd.

Gwelais fod y plant roeddwn yn eu gwarchod yn croesawu’r plant maeth gyda breichiau agored ac roeddent yn edrych ymlaen yn fawr i’w gweld, yn enwedig y plant hŷn roeddwn i’n eu gwarchod. Ni chefais broblem o gwbl gyda’r plant roeddwn yn eu gwarchod.
Fodd bynnag, gallai fy mhlant maeth ymddwyn yn wahanol ar nifer o achlysuron, byddai’r plentyn hŷn yn ceisio ymddwyn fel mam i’r plant ifanc iawn roeddwn i’n eu gwarchod. Byddai’n ceisio eu codi a’u disgyblu, fel pe bai hi’n fam iddynt. Weithiau roedd hyn yn gwneud i mi deimlo’n anghyfforddus ac roeddwn i’n gwneud yn siŵr fy mod i o gwmpas bob amser a byddwn i’n egluro fy mod i’n gofalu am y plant bach nes i’w rhieni gyrraedd. Fodd bynnag, gwelais hefyd fod y plentyn hŷn yn chwarae’n dda iawn gyda’r plant iau ac roedd yn hoffi fy helpu i.

Hefyd, gwelais y byddai’r plentyn maeth ieuengaf yn teimlo’n genfigennus iawn weithiau, ac eto roeddwn i’n gwneud yn siŵr fy mod i yno bob amser a byth yn gadael y plant ar eu pen eu hunain. Gwelais fod fy mhlant maeth weithiau’n genfigennus iawn a byddent eisiau fy sylw, yna pan fyddai’r plant roeddwn yn eu gwarchod yn cael eu casglu, roeddent yn ymlacio’n llwyr ac roeddent yn gwybod eu bod yn cael fy sylw i gyd.
Byddwn i’n dweud ei bod bob amser wedi helpu bod fy ngŵr o gwmpas pan oeddwn i’n gweithio fel gwarchodwr plant er mwyn iddo roi’r sylw oedd ei angen ar ein plant maeth.

Yn fy mhrofiad cyfyngedig, rwy’n teimlo fod bod yn warchodwr plant a cheisio maethu hefyd yn cyflwyno nifer fawr o heriau, efallai byddai hyn wedi teimlo’n wahanol pe bawn i wedi bod yn ofalwr maeth llawn amser, ond yn sicr fel gofalwr seibiant, gallai fod yn eithaf heriol ar adegau." Gofalwr maeth seibiant a gwarchodwr plant


Felly beth yw eich dewisiadau?

  1. Maethu plentyn llawn amser sy’n ffitio gyda’r plant rydych yn eu gwarchod.
  2. Maethu babis, os oes angen uchel yn eich gwasanaeth maethu am hyn.
  3. Maethu rhan-amser (seibiant) ar benwythnosau a threfnu dyddiadau pan fydd maethu’n ffitio’n well.
  4. Bod â chleientiaid gwarchod plant sy’n deall.
  5. Bod â chefnogaeth gan eich partner.
  6. Ei wneud yn raddol, gan sicrhau bod modd rheoli galwadau maethu/gwarchod plant.

Gwahanol farn yn dibynnu ar pwy rydych yn maethu gyda nhw

Surrey :
https://www.nurseryworld.co.uk/nursery-world/news/1094489/childminders-urged-foster-children

Cumbria a Doncaster :
http://cumbriacs.proceduresonline.com/chapters/p_fost_who_are_chldmind.html

Asiantaethau maethu:
Bydd rhai asiantaethau maethu annibynnol yn gofyn i chi roi’r gorau i weithio i faethu gyda nhw.

I orffen

Gallai cyfuno gwarchod plant a maethu weithio’n llwyddiannus iawn i un person a bod yn wahanol iawn i un arall - bydd hyn i gyd yn dibynnu ar y plant rydych yn gofalu amdanynt yn y ddwy rôl. Bydd yn heriol ymdopi â gofynion y ddau.
Ond gall maethu ddefnyddio eich sgiliau a ddatblygwyd mewn gwarchod plant i wneud gwahaniaeth mawr i blentyn sydd wedi methu allan ar y plentyndod hapus mae plant eraill wedi’i gymryd yn ganiataol.